Taith Afon

Amdano

Rydym wedi creu set gyflawn o adnoddau cam wrth gam i gefnogi addysgwyr i gyflwyno gweithdai afonydd deniadol, boed yn yr ystafell ddosbarth, adref neu ar lan yr afon.  

Mae yna bum gweithdy ar gael sy’n ymdrin â bywyd o fewn ein hafonydd, problemau maent yn ei wynebu a phethau mae angen i ni ei hystyried ar gyfer ei hamddiffyn a’i wella nhw.  

Mae’r gweithdai wedi ei dylunio ar gyfer plant rhwng 7 a 11, er hyn mae yna weithgareddau ymestyn ychwanegol ac esboniadau manwl yn galluogi addysgwyr i addasu’r gweithdai ar gyfer dysgwyr hyn ag iau. 

Gwerth Addysgol ag Ymgysylltu

Mae pob gweithdy wedi’i gynllunio i fod yn ddiddorol ac yn addysgiadol, gan gyd-fynd â chwricwlwm Cymru wrth annog chwilfrydedd a meddwl beirniadol. 

Bydd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau ymarferol, trafodaethau a gweithgareddau hunan arweiniol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â materion amgylcheddol y byd go iawn. 

Hyder a Diogelwch yn yr Afon

Ar gyfer ein sesiynau yn yr afonrydym wedi cynnwys canllawiau diogelwch a drafft asesiadau risggan eich helpu i deimlo’n barod ac wedi eich cefnogi wrth fynd i ddysgu tu allan.