Amcangyfrifir bod dros 90% o’n hafonydd yn y DU wedi cael eu haddasu gan bobl drwy arferion megis sythu, gôr-ehangu, carthu, draenio gorlifdiroedd ac ychwanegu rhwystrau mewn afonydd. Mae’r addasiadau hyn i gyd yn effeithio ar brosesau naturiol ac felly maent yn niweidiol i iechyd a bioamrywiaeth afonydd.
Mae adfer afonydd yn cyfeirio at sawl gweithgaredd gwahanol sy’n adfer cyflwr a swyddogaeth naturiol afon. Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn chwilio yn rheolaidd am gyfleoedd i adfer llwybrau naturiol afonydd drwy gael gwared ar rwystrau (gweler isod) neu drwy ‘ail-ddolennu’ a/neu ailgysylltu gorlifdiroedd lle nad yw tir yn cael ei ddatblygu neu o werth amaethyddol isel. Lle nad yw cyfyngiadau yn caniatáu hyn, rydym yn ceisio gwella amrywiaeth cynefinoedd o fewn y sianeli presennol trwy gyflwyno ‘deunydd coediog mawr’ neu drwy gael gwared ar ochrau glannau afon peirianneg galed o blaid gwrthgloddiau naturiol.
Rydym hefyd wedi darparu sawl cilometr o ffensys i wahardd da byw ac atal potsio o’r glannau, ynghyd a phlannu coed ar lan afonydd i’w cadw’n oer a hidlo dŵr ffo.
Tynnu rhwystrau
Mae rhwystrau mewn afonydd fel coredau yn cael nifer o effeithiau ar gynefin afonydd a bioamrywiaeth, gan gynnwys:
- Darnio cynefinoedd: Mae rhannau o afonydd a oedd unwaith yn ddi-dor yn cael eu rhannu’n ddarnau ar wahân, gan gyfyngu ar symudiadau organebau fel pysgod a’u gwahanu oddi wrth gynefinoedd/adnoddau / cwblhau eu cylch bywyd a dianc rhag digwyddiadau llygredd.
- Diraddio cynefinoedd:i fyny’r afon o goredau, daw afonydd yn fwy tebyg i lynnoedd, gan foddi nodweddion naturiol fel crychdonnau ac achosi i gynefinoedd silio a meithrin pwysig i bysgod afon gael eu colli a lleihau’r cynnwys ocsigen.
- Mae coredau’n atal trawsgludo gwaddod, gan leihau’r cyflenwad o raean i’r rhan i lawr yr afon, gan arwain at sianeli endoredig a llai o gynefinoedd silio a meithrin.
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru wedi mapio’r mwyafrif o’r rhwystrau yn ein dalgylch ac wedi cael cryn lwyddiant wrth gael gwared ar, neu liniaru, llawer ohonynt er mwyn rhyddhau cannoedd o gilomedrau o afonydd i bysgod mudol, yn ogystal ac, yn bwysig iawn, i ail-naturioli llifoedd ac adfer cynefin. Fodd bynnag, mae cannoedd o gilometrau eto o’n blaen, felly dal ati sydd raid!
Fideo – Cael gwared o gored Llan
Gweler enghreifftiau pellach o’n gwaith tynnu coredau a’n rampiau osgoi yma: Diwrnod Mudo Pysgod y Byd Hapus! | Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
Rhywogaethau Estron Goresgynnol
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn anifeiliaid neu blanhigion nad ydynt wedi cytrefu’n naturiol ond sydd wedi’u cyflwyno (yn ddamweiniol neu’n fwriadol) gan bobl ac sydd bellach â’r gallu i beri bygythiad i’r amgylchedd, economi neu bobl. Ar hyn o bryd, mae dros 2000 o blanhigion anfrodorol wedi’u sefydlu yn y DU ond nid yw pob un o’r rhain yn ymledol. Mae tua 15% o’r planhigion hyn yn fygythiad i’n ffordd o fyw ac, ar ôl sefydlu, mae eu difrod yn anwrthdroadwy, trwy ddifrod i seilwaith fel ffyrdd a thai, colli bioamrywiaeth trwy gystadlu â rhywogaethau brodorol, a difrodi cynefinoedd afon. Mae rhywogaethau ymledol yng Ngorllewin Cymru yn cynnwys Jac y Neidiwr, pidyn y gog Americanaidd, canclwm Japan, efwr enfawr, a Cimwch yr afon.
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn gweithio i fapio a nodi cyfleoedd ariannu a phartneriaeth i ddileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth, lleihau perygl llifogydd a diogelu ein hafonydd.