Prosiect Dileu Jac y Neidiwr

Allech chi wirfoddoli i warchod ein hafonydd?

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn ffurfio partneriaeth â phrosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn rheoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ar afonydd Teifi, Tywi a Chleddau.

Byddwn yn gweithio ar hyd 6 isafon i gael gwared ar blanhigion Jac y Neidiwr goresgynnol. Mae’r planhigion hyn yn cystadlu’n llwyddiannus yn erbyn llystyfiant brodorol ac yn gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad pan fyddant yn marw yn y Gaeaf.

Trwy ddefnyddio dull wedi’i dargedu i glirio’r rhywogaeth o ben uchaf yr isafonydd i’r man cydlifo bob blwyddyn am 3 blynedd, ein nod yw clirio 100% o’r Jac y neidiwr.

Ond ni allwn gyflawni hyn heb eich cymorth chi!

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr dros 16 oed yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Llanymddyfri, Llandeilo, Maenclochog a Hwlffordd neu a fyddai’n barod i deithio yno, ac a fyddai’n gallu gwirfoddoli am ychydig oriau neu am ychydig ddyddiau bob mis.

Does dim angen profiad, dim ond brwdfrydedd, ac awydd a pharodrwydd i weithio yn yr awyr agored!

Yn gyfnewid am hyn, bydd gwirfoddolwyr yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol a sgiliau adnabod planhigion, yn ogystal â chyfrannu at strategaeth reoli ehangach i atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol ar hyd ein hafonydd.

Cysylltwch â ni i ddangos fod gennych ddiddordeb, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am gyfleoedd sydd ar ddod: info@westwalesriverstrust.org

Gallwch hefyd weld cyfleoedd a digwyddiadau gwirfoddoli eraill yn ein calendr digwyddiadau yma: Events | West Wales Rivers Trust

Rhagor o wybodaeth

Mae afonydd Teifi, Tywi a Chleddau yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n golygu eu bod yn cael eu gwarchod a’u bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a phlanhigion fel eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Mae rheoli lledaeniad ac effaith Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) yn amcan allweddol y gwaith gwirfoddol, gan fod y planhigion wedi dod yn gyffredin yn y DU, gan gytrefu glannau afonydd, ymylon torlannol a choetiroedd gwlyb.

Nod prosiect Pedair Afon LIFE yw lleihau effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar yr afonydd. Bydd rhywogaethau ymledol fel Jac y neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan ac efwr enfawr yn cael eu rheoli.

Er mwyn darganfod mwy am brosiect Pedair Afon LIFE ewch i’r wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Pedair Afon LIFE