Gweithredoedd Pob Dydd

Mae llawer ffordd y gallwch wella iechyd eich afon leol, heb hyd yn oed adael eich cartref! Gweler nifer isod:

 

Sut i Arbed Dŵr Yn y Cartref

  • Gwiriwch fod offer yn y cartref wedi’u cysylltu â’r garthffos budr nid draen dŵr arwyneb.
  • Sicrhau bod cyfleusterau storio olew yn y cartref mewn cyflwr da, gyda chofnod archwilio cyfredol.
  • Sicrhau bod tanciau septig neu weithfeydd trin carthion preifat yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn gweithio’n effeithiol.
  • Rhoi cynhyrchion misglwyf, ffyn cotwm, weips a sbwriel tebyg yn y bin, nid i lawr y toiled. Gall y rhain achosi i systemau carthffosiaeth flocio ac i garthffosiaeth ddianc i, a thagu, ein hafonydd.
  • Ewch ag olew gwastraff a chemegau fel gwirod gwyn i gyfleuster ailgylchu trefol: peidiwch â’u tywallt i lawr y sinc nac i lawr y draeniau tu allan oherwydd gall y rhain lifo mewn i afonydd yn ystod glaw trwm
  • Defnyddiwch gynhyrchion glanhau gegin, ystafell ymolchi a cheir sy’n achosi llai o niwed i’r amgylchedd, megis glanedyddion golchi dillad di-ffosffad, a defnyddio cyn lleied ohonynt â phosibl.
  • Arbedwch ddŵr yn eich gardd trwy ddewis planhigion sy’n goddef amodau sych. Er mwyn helpu lawntiau trwy gyfnodau sych, peidiwch â’u torri’n rhy fyr. Casglwch law mewn casgen ddŵr, dyfriwch ar ddechrau neu ddiwedd y dydd, defnyddiwch domwellt ar blanhigion, a defnyddio can dyfrio lle bo hynny’n bosibl yn lle system chwistrellu neu bibell ddŵr.
  • Prynu offer rhad-ar-ynni a rhai sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon.
  • Arbedwch ddŵr yn eich cartref trwy osod ‘fag hippo’ neu ‘fag arbed fflysio’ yn y seston, gosod toiled fflysio isel, a/neu roi rheoleiddwyr llif ar eich tapiau a’ch cawodydd. Arhoswch tan fydd gennych lwyth llawn cyn rhedeg peiriannau golchi llestri neu beiriannau golchi a gwasgu’r botwm economi. Defnyddiwch y lleiafswm o ddŵr sydd ei angen mewn tegellau neu sosbenni. Diffoddwch y tap wrth frwsio dannedd a chymryd cawod yn hytrach na bath. Defnyddiwch bowlen pan yn golchi ffrwythau a llysiau yn hytrach na gadael i’r tap redeg – a defnyddiwch yr hyn sydd weddill ar blanhigion. Golchwch eich ceir a llaw.
  • Sicrhau bod dŵr to estyniad neu heulfan yn draenio i suddfan dŵr neu system ddraenio cynaliadwy ac nad ydynt wedi’u cysylltu â’r garthffos gyfunol.
  • Sicrhau bod unrhyw barcio oddi ar y ffordd neu batio o amgylch y tŷ yn defnyddio deunyddiau hydraidd fel y gall glaw socian i’r pridd.
  • Peidiwch â phrynu, plannu na rhyddhau rhywogaethau estron goresgynnol (INNS). Gallwch gael gafael ar y cyngor diweddaraf am sut i reoli INNS a’u gwaredu’n gyfrifol trwy wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Annhenid Prydain Fawr