Gwirfoddoli Corfforaethol

Archebwch eich gweithgaredd gwirfoddoli corfforaethol gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru er mwyn i’ch tîm fynd i’r afael yn ymarferol, a gweithredu’n gadarnhaol, ar newid hinsawdd ar hyd afonydd Gorllewin a De-orllewin Cymru!

Mae diwrnodau gwirfoddoli gweithredol Ymddiriedolaethau Afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer grwpiau corfforaethol yn galluogi eich tîm i:

  • Gweithredu ar, a dod yn ymwybodol o’r, hinsawdd
  • Gwella llesiant
  • Dod at eich gilydd yn anffurfiol
  • Adeiladu sgiliau gweithio mewn tîm
  • Meddwl yn greadigol
  • Dysgu sgiliau ymarferol
  • Dysgu am afonydd, dŵr a newid yn yr hinsawdd
  • Cyflawni nodau cynaliadwyedd
  • Cael hwyl!

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Plannu gwlyptiroedd a choetiroedd i leihau’r perygl llifogydd a storio carbon
  • Gwaredu rhywogaethau goresgynnol i wella bioamrywiaeth a chreu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt
  • Gwella cynefin afonydd drwy ychwanegu ‘deunydd coediog mawr’ i afonydd i’w hail-naturioli
  • Atal llygredd yn y tarddiad drwy baentio Pysgod Melyn ar ddraeniau storm i atgoffa cymunedau am y cysylltiad rhwng draeniau storm ac afonydd
  • Cael gwared o dunelli o blastig o afonydd cyn iddynt gael eu hysgubo allan i’r cefnfor a chyfrannu at y risg o ddymchwel ecosystemau

Mae pob grŵp yn gwneud gwahaniaeth MAWR i afonydd Gorllewin Cymru AC i ddyfodol yr hinsawdd. Mae’r gweithgareddau’n amrywio yn ddibynnol ar y tymor, ac maent yn hygyrch ac yn hwyl i bobl o bob gallu.

Sut i archebu lle

E-bostiwch info@westwalesriverstrust.org yn nodi maint eich grŵp a’r mis dymunwch wneud y gweithgaredd a gallwn ddod o hyd i weithgaredd, safle a dyddiad sy’n addas i’ch tîm a’ch cyllideb.

Map carthion yr Ymddiriedolaeth Afonydd