
Ydych chi’n mwynhau cerdded glannau eich afon leol ac a oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ei diogelu? Rydym yn chwilio am grwpiau neu unigolion i ymuno â’n rhwydwaith cynyddol o grwpiau ‘Mabwysiadu Llednentydd’ sy’n gwirfoddoli i helpu i ddiogelu rhan o’u hafon leol a helpu i wneud gwelliannau i afonydd a’u bywyd gwyllt.
Mae llawer o lednentydd yn bwysig fel ardaloedd silio a meithrin pysgod, ond mae amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys llygredd, rhwystrau i fudo pysgod, sbwriel a diraddio cynefinoedd yn gyffredinol, yn golygu nad ydynt mor iach ag y gallent fod. Mae eu hadferiad yn hanfodol er mwyn gwella poblogaethau bywyd gwyllt ac ansawdd dŵr.
Mae ein grwpiau Mabwysiadu yn gwneud popeth- o roi gwybod i ni am faterion a chyfleoedd wrth gerdded eu hafon, i gasglu sbwriel, arolygon bywyd gwyllt, monitro ansawdd dŵr, a hyd yn oed adfer cynefinoedd yn yr afon! Byddwn yn darparu’r hyfforddiant, y gefnogaeth, yr offer a’r canllawiau Iechyd a Diogelwch i’ch helpu i amddiffyn eich afon.
Gallwch weld ein rhannau afonydd mabwysiedig presennol ar y map isod. Os hoffech gofrestru i Fabwysiadu rhan o’ch afon leol, naill ai fel rhan o grŵp presennol neu newydd, cysylltwch â ni ar adopt@westwalesriverstrust.org.