Gwagiwch eich tanc septig gyda gostyngiad i helpu amddiffyn ein hafonydd!
Nid yw llawer o eiddo yng Ngorllewin Cymru wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus ac maent yn cael eu gwasanaethu gan systemau carthffosiaeth preifat megis tanciau septig, gweithfeydd trin carthion a ceubyllau. Gall y rhain achosi llygredd i gyrsiau dŵr os nad ydynt yn cael eu cynnal a chadw yn iawn, gan y gall unrhyw ollyngiadau achosi cynydd mewn lefelau ffosffad mewn afonydd. Mae ffosffad yn cynyddu twf planhigion fel algâu, sy’n ‘tagu’ wyneb yr afon ac yn lleihau’r ocsigen sydd ar gael ar gyfer pysgod ac anifeiliaid dyfrol eraill. Y canlyniad yw lladd pysgod a gostyngiad mewn bioamrywiaeth ddyfrol.
Mae modelu diweddar yn dangos bod hyd at 8% o ffosfforws sy’n cael ei ryddhau i’n hafonydd yng Ngorllewin Cymru yn dod o ffynonellau gan gynnwys tanciau septig a dŵr ffo trefol. Er y gallai hyn fod yn ganran fach o’i gymharu â defnydd tir gwledig a charthffosiaeth o waith triniaeth a gorlifiadau stormydd, mae’n un ffordd y gall perchennog cartref gael effaith uniongyrchol ar wella iechyd ein hafonydd.
Gostyngiadau i’ch helpu chi a’n hafonydd!
Mae’r rhan fwyaf o danciau septig yn rai ‘byw’ a ddim ond yn perfformio cystal ag y cânt eu trin. Mewn tanc septig iach, mae bacteria naturiol yn chwalu’r gwastraff, ac os dilynir canllawiau mewnbwn, ni fydd unrhyw ardal llifo yn effeithio ar gyrsiau dŵr lleol. Mae hyn yn golygu dalgylch afon glân i chi ei fwynhau! Gallwch ein helpu i ofalu am afonydd Gorllewin Cymru drwy ddilyn y cyngor hwn:
- Sicrhewch fod eich system yn cael ei gwagio gan gludwr gwastraff cofrestredig yn rheolaidd i sicrhau nad yw’n achosi llygredd.
- Cynnal a chadw eich system yn rheolaidd, datrys unrhyw ddiffygion neu broblemau ar unwaith.
Fel rhan o’n gwaith ar y Prosiect Lleihau a Lliniaru Ffosffad (PRAM), rydym ni yn Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru wedi partneru â chwmni lleol, D.I. Evans Cyf, i annog mwy o bobl i wasanaethu’n rheolaidd a chynnal eu tanc septig trwy gynnig gostyngiad i unrhyw un sy’n byw ochr yn ochr ag Afon Teifi a’r ardaloedd cyfagos.
Archebwch i wagio eich system trin carthion domestig gyda D.I. Evans Cyf a chael £10 i ffwrdd pan soniwch am Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru!
Rydym yn chwilio am fwy o gwmnïau i ymuno â ni i wneud eu rhan i helpu ein hafonydd, felly cysylltwch â ni os hoffech i’ch cwmni gymryd rhan!
Tanc Septic
Gwagio’n flynyddol, er gall tai llai gyda un preswylwr ei wagio bob yn ail blwyddyn
Ceubwll
Gwagio dwywaith y flwyddyn, mwy os yn dŷ mawr
Gwaith Pecyn
Gwasanaeth blynyddol, a gwagio o leiaf bob dwy flynedd
Gweld ac arogli
Os ydynt yn derbyn y gofal priodol, bydd eich system yn parhau i weithio’n hapus am flynyddoedd. Ond sut mae dweud os oes rhywbeth o’i le? Dyma ychydig o arwyddion a allai olygu nad yw eich system trin carthion yn gweithio fel y dylai fod:
- Mae draeniau yn araf i’w clirio neu mae’r toiledau yn dod a dwr budr yn ôl. Dyma’r arwyddion mwyaf amlwg nad yw’ch system yn gweithio yn gywir. Gallai fod bod pibellau wedi’u rhwystro, mae’r tanc yn llawn solidau neu mae’r maes draenio wedi blocio.
- Mae’r tir uwchben y maes draenio neu’r soakaway fel sbwng, neu mae llawer o lystyfiant a glaswellt yn tyfu. Mae hyn hefyd yn arwydd y gallai’r maes draenio wedi blocio.
- Hylif tywyll, drewllyd ar ddiwedd y bibell gollwng. Mae hylif clir yn arferol, mae unrhyw beth tywyll, drewllyd neu sy’n cynnwys solidau yn golygu bod problem gyda’ch system.
Mae cymryd yr amser i wirio, cynnal aa chadw a gwagio’ch system yn gallu arbed arian i chi yn y tymor hir, ac hefyd yn helpu i atal carthion rhag gollwng i’n hamgylchedd naturiol. Mae hepgor gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn gallu arwain at atgyweiriadau costus, neu hyd yn oed yn gorfod amnewid eich system yn gyfan gwbl. Os nad ydych yn siŵr pa mor dda mae’ch system yn gweithio, yna gofynnwch i’ch contractwr gwagio am gyngor – efallai y bydd yn gallu cynnal archwiliad iechyd system.
Canllawiau ychwanegol
- Cofrestrwch eich tanc septig neu weithfa drin carthion bach (Cyfoeth Naturiol Cymru)
- Rhedeg a chynnal tanc septig neu ffatri garthffosiaeth fechan (Cyfoeth Naturiol Cymru)
- Canllawiau ar Atal Llygredd: Trin a gwaredu dŵr gwastraff lle nad oes cysylltiad â’r garthffos budr cyhoeddus
- Cofrestr gyhoeddus cludwyr, broceriaid a gwerthwyr gwastraff (Cyfoeth Naturiol Cymru)
- Cod Ymarfer: Llifoedd a Llwythi – Meini Prawf Maint, Gallu Triniaeth ar gyfer Systemau Trin Carthion (Dŵr Prydain)
- Canllaw i ddefnyddwyr gweithfeydd trin dŵr gwastraff wedi’u pecynnu (British Water)