Gweithio Gyda Chymunedau

Rydym yn frwdfrydig dros ymgysylltu cymunedau â’u hafon leol fel y gallent fwynhau eu harddwch a’u heddwch, yn ogystal â’u manteision profedig ar gyfer lles meddyliol a chorfforol. Er mwyn hyrwyddo hyn, rydym yn cynnal digwyddiadau sy’n ymwneud ag afonydd – fel chwilota afonydd, teithiau cerdded natur a sgyrsiau a gweithgareddau eraill, yn rheolaidd.

Fyddai rhan fwyaf o’n gwaith ddim yn bosibl heb wybodaeth a chefnogaeth amhrisiadwy cymunedau lleol, ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i weithio gyda grwpiau presennol neu unigolion sydd â diddordeb. Ein prif waith parhaus gyda chymunedau yw drwy ein prosiect ‘Mabwysiadu Llednant’ sy’n dod â phobl leol at ei gilydd ac yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer angenrheidiol iddynt i helpu i ddiogelu rhan o’u hafon leol a helpu i wneud gwelliannau ar gyfer ansawdd dŵr a bywyd gwyllt. Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect hwn ar ein tudalen gwirfoddoli.

Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o waith addysgol gydag ysgolion a chyfleusterau addysg uwch – gweler ein tudalen Addysg.