Mae gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru wybodaeth helaeth o’n dalgylchoedd gwledig a threfol a’r pwysau defnydd tir ar lawr gwlad sy’n effeithio arnynt. Rydym hefyd yn dibynnu‘n helaeth ar ddata modelu Dosbarthiad Ffynhonnell diweddar sy’n meintioli’r pwysau Ffosfforws o bob sector ar ein hafonydd ACA ac felly’r camau blaenoriaeth sydd eu hangen – boed hynny gyda’r rhwydwaith carthion, y sector amaethyddol, diwydiant, tanciau carthion preifat neu eraill.
Lle mae materion yn gymharol fach ac yn hawdd mynd i’r afael â nhw ar lawr gwlad, rydym yn gweithio gyda thirfeddianwyr i wneud y newidiadau hyn. Er enghraifft, mewn dalgylchoedd gwledig, rydym yn darparu cyngor rheoli tir a mesurau ar y fferm i leihau gollyngiadau llygryddion o ffermydd tra’n cynyddu effeithlonrwydd a gwella iechyd ecolegol.
Gall cyngor rheoli tir a mesurau ar y fferm leihau gollyngiadau llygryddion o ffermydd ac, ar yr un pryd, sicrhau effeithlonrwydd i gynyddu cynnyrch ac arbed costau. Rydym yn gweithio gyda ffermwyr i argymell yr opsiynau gorau ar gyfer eu hamgylchiadau.
Gweler enghreifftiau o arfer da ar y fferm o’u cymharu â phryderon ar y fferm yn y darlun isod.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ansawdd dŵr digonol, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rheoleiddiwr effeithlon ac i gwmnïau fel Dŵr Cymru, a ffermwyr a rheolwyr tir fod yn atebol am leihau eu heffeithiau ar ein hafonydd. Er mwyn gweithio tuag at hyn, mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a’n hymddiriedolaeth ymbarél Afonydd Cymru, yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru, yn ymateb i ymgynghoriadau neu’n ysgrifennu llythyrau’n mynegi pryder i geisio dylanwadu ar gyflawni a newidiadau polisi.