Gwirfoddoli

Rydym am i bobl fwynhau afonydd gymaint â ninnau. Un ffordd wych o wneud hyn yw gwirfoddoli ar eich afon leol. Ymunwch â’n tîm o 300+ o wirfoddolwyr sy’n gweithio mewn sawl ffordd wahanol i ddod ag afonydd yn ôl yn fyw.

Mae gan wirfoddoli lawer o fanteision y tu hwnt i’r effaith gadarnhaol y byddwch chi’n ei gadael ar yr amgylchedd.

Drwy wirfoddoli gyda ni, cewch gyfle i:

  • Ddysgu sgiliau ymarferol newydd fel adnabod infertebratau neu reoli cynefinoedd
  • Cwrdd â phobl o’r un anian, dod yn rhan o gymuned newydd
  • Ymarfer yn yr awyr iach
  • Gwella’ch iechyd a lles trwy dreulio amser ym myd natur
  • Ychwanegu rhywbeth arbennig i’ch CV

Gwyliwch y fideo isod i glywed Nathaniel, y Swyddog Prosiect yn trafod diwrnodau gwirfoddoli gwaredu rhywogaethau oresgynnol: