Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw tirwedd fyw well, lle mae cymunedau yn gwerthfawrogi eu hafonydd lleol a lle mae defnydd tir cynhyrchiol ac afonydd glân gyda phoblogaethau bywyd gwyllt llewyrchus yn bodoli mewn cytgord o fewn dalgylchoedd sy’n gallu gwrthsefyll hinsawdd sy’n newid, fel y gall afonydd barhau i ddarparu buddion i bobl a bywyd gwyllt.

Bydd YAGC yn gweithio tuag at gyflawni hyn drwy wlychu’n traed a thorchi’n llewys a chymryd camau lleol, wedi’u targedu, i gael effaith wirioneddol gadarnhaol. Gwneir hyn trwy ddefnyddio’r arfer gorau a datblygiadau mewn gwyddoniaeth, yn ogystal â thrwy weithio gyda’n corff ambarél Afonydd Cymru i ddylanwadu ar newidiadau polisi er budd ein hafonydd a’n dalgylchoedd ehangach.

Yn anffodus, dim ond tîm bach ydyn ni ac ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Er mwyn cyflawni amgylcheddau dŵr cynaliadwy, mae arnom angen rheolydd effeithlon a chwmnïau a rheolwyr tir sy’n atebol am leihau eu heffeithiau ar ein hafonydd. Rydym hefyd yn dibynnu ar ein rhwydwaith cynyddol o wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel ein llygaid a’n clustiau ar lawr gwlad, fel gwarcheidwaid eu hafonydd lleol.