Mae gwasgaru deunydd organig fel tail ar dir yn cyfrannu’n sylweddol at ormodedd o faetholion yn afonydd Cymru, ond mae bylchau yn ein system gynllunio a rheoleiddio gwan yn caniatáu i wasgaru barhau i lygru afonydd.
Yn dilyn pwysau gan Ymddiriedolaeth Afonydd Cymru, Afonydd Cymru, a Fish Legal, mae Llywodraeth Cymru yr wythnos hon wedi cadarnhau adolygiad i reoleiddio a gorfodi taenu deunyddiau organig ar dir yng Nghymru. Amcan yr adolygiad yw ystyried y fframweithiau rheoleiddio presennol a nodi ffyrdd y gellid eu cryfhau nhw – a’u cymhwysiad – i wella ansawdd dŵr afonydd.
Ochr yn ochr â hyn mae adolygiad penodol o’r diwydiant treulio anaerobig (TA), gan gynnwys ei effeithiau ar ansawdd dŵr. Bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar bopeth sy’n cael ei wasgaru’n gyfreithlon, gan gynnwys slyri, tail, gweddillion treuliad anaerobig (hylif o dreulio anaerobig), llaid carthion, llaid o weithfeydd llaeth a phrosesu bwyd.
Mwy o wybodaeth yma: Llywodraeth Cymru yn Cymryd Cam Arwyddocaol i Leihau Llygredd Maetholion | Afonydd Cymru