- Cyflog byw gwirioneddol, £12 yr awr
- 5 diwrnod/35 awr yr wythnos o weithio hyblyg
- Swydd dros dro: Ebrill – Awst 2024 (5 mis)
- 12 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
- Telir am offer a chostau teithio
Gwefan www.westwalesriverstrust.org/cy/
E-bost: harriet@westwalesriverstrust.org
Hoffech chi ddysgu sut i gysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol fel rhan o brosiect ymgysylltu cyffrous? Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’n tîm cyfeillgar a chefnogol mewn rôl gychwynnol i’ch helpu i gychwyn gyrfa ym maes cadwraeth. Byddwch yn gweithio ar brosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol, gan helpu i achub ein hafonydd a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnynt.
Rydyn ni’n chwilio am dri unigolyn i ymuno â’n tîm cyfeillgar. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn, ond does dim angen llawer o gymwysterau na phrofiad blaenorol arnoch i wneud cais. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl sy’n awyddus i newid gyrfa, pobl sy’n ddi-waith, myfyrwyr a graddedigion.
Gyda chymorth staff WWRT, bydd Interniaid Ymgysylltu â Chymunedau Afonydd yn gweithio fel tîm i ddod â chymunedau at ei gilydd ar hyd Afon Llwchwr, Sir Gaerfyrddin, i’w cysylltu â’u hafon leol drwy gyfrwng amrywiol weithgareddau a digwyddiadau. Bydd y rôl yn cynnwys profiad yn y maes ac wrth ddesg, ac yn amrywio o gynllunio prosiectau i gynnal digwyddiadau. Yn ogystal â’r elfen o’r rôl sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned, bydd yr interniaid yn cael cyfle i feithrin profiad mewn agweddau eraill ar waith adfer afonydd WWRT ar draws Gorllewin Cymru.
Ymunwch â’n tîm!
- Nid oes angen gradd nac unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch.
- Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob oed.
- Nid oes angen profiad gwaith blaenorol, ond rydym yn agored i bobl sy’n chwilio am newid ar unrhyw gam yn eu gyrfa.
- Nid oes angen ichi fod â phrofiad o waith gwirfoddol.
- Nid ydym yn disgwyl ichi feddu ar wybodaeth helaeth am afonydd na bywyd gwyllt – dim ond brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.
- Oherwydd y bydd y rolau’n cael eu lleoli yn nalgylch Llwchwr, rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr hynny sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin neu gerllaw – sylwch nad ydym yn gallu talu costau teithio os ydych yn byw ymhellach i ffwrdd.
Peidiwch â phoeni os ydych chi’n meddwl nad chi yw’r ymgeisydd arferol ar gyfer swydd fel hon, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Os hoffech drafod y swyddi ymhellach, cysylltwch â: Harriet Alvis, Prif Swyddog Gweithredol ar harriet@westwalesriverstrust.org
I wneud cais am y swydd hon, llenwch y ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan isod a’i dychwelyd at harriet@westwalesriverstrust.org
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am, dydd Llun 29ain Ionawr 2024.
Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan WCVA.