Allwch chi helpu Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i ddiogelu ein hafonydd ar gyfer y dyfodol?
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn elusen sy’n ymroddedig i adfer a diogelu afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru mewn cyfnod o dwf ac yn chwilio am ymddiriedolwyr sy’n frwd dros gymryd rhan ganolog wrth lunio ein cyfeiriad ac ansawdd ein hallbynnau.
Eleni, mae gan y Bwrdd swyddi gwag ac mae’n chwilio am bobl sydd ag ymrwymiad sylweddol i nodau ein Hymddiriedolaeth a’n hafonydd yn Ne Orllewin a Gorllewin Cymru.
Profiad yr ymgeisydd
Nid oes angen profiad Bwrdd neu Ymddiriedolwr blaenorol, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Hoffem barhau i gael cynrychiolaeth ddaearyddol dda ar y Bwrdd a gobeithiwn dderbyn ceisiadau o holl siroedd ardal ein Hymddiriedolaeth, ond mae angen ymddiriedolwyr yn arbennig yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Rydym yn agored i bob ymgeisydd, fodd bynnag, efallai y rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd â’r sgiliau canlynol:
- Amaethyddiaeth
- Addysg
- Perygl llifogydd
- Ansawdd dŵr
- Coedwigaeth
- Rheoli gwirfoddolwyr
- Geomorffoleg/adfer afonydd
- Lechyd a diogelwch
Er mwyn ein galluogi i gysylltu’n effeithiol â’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt rydym yn annog ceisiadau gan ystod amrywiol o bobl. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi mynegiant pob syniad a safbwynt ymhlith ein timau ymddiriedolwyr a staff.
Os ydych chi dros 18 oed ac yn dymuno defnyddio eich sgiliau a’ch profiad ar lefel llywodraethu’r Bwrdd i’n helpu ni i helpu bywyd gwyllt, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Nid yw Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn gwahaniaethu ar sail hil, lliw, crefydd, rhyw, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, na tharddiad cenedlaethol.
Mae ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr di-dâl. Yr ymrwymiad yw mynychu cyfarfodydd y Bwrdd (4 y flwyddyn) yn ogystal â gwirfoddoli rhywfaint o amser sbâr i helpu i ddatblygu gwaith yr Ymddiriedolaeth ac i fynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill yn achlysurol.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ymuno â’r Bwrdd ar hyn o bryd, a bydd ceisiadau ar agor nes bod pob swydd wedi’i llenwi.
I wneud cais:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn amlinellu pam mae eich sgiliau a’ch profiad yn eich gwneud yn ymgeisydd da i harriet@westwalesriverstrust.org
Am fwy o wybodaeth:
I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, ewch i www.westwalesriverstrust.org
Byddai ein Cadeirydd presennol, Clive Roberts, neu’r Prif Weithredwr, Harriet Alvis, yn falch iawn o siarad yn anffurfiol i drafod y rôl: harriet@westwalesriverstrust.org