Rydym yn gweithio ar brosiect i wella faint o blastigau amaethyddol sy’n cael eu hailgylchu yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda chasglwyr plastigau amaethyddol, ailgylchwyr a ffermwyr, yn ogystal ag adeiladu ar waith ymchwil blaenorol, i ddatblygu rhaglen fwy cost-effeithiol i ffermwyr ledled Cymru gasglu ac ailgylchu deunydd lapio silwair. Ein nod yw creu cynhyrchion amaethyddol â chymhorthdal fel deunyddiau ffensio o’r plastig wedi’i ailgylchu, i greu buddion cylchol.
Rydym am glywed gan ffermwyr yng Nghymru am yr arferion presennol a’r hoffterau o waredu plastigion silwair. Os ydych yn ffermwr yng Nghymru sy’n defnyddio silwair ac yr hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, cysylltwch â Harriet: harrietthompson@westwalesriverstrust.org. Bydd yr holl ymatebion i’r arolwg yn ddienw a chewch ad-daliad am eich amser.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.