Mae prosiect partneriaeth newydd yn galw am wirfoddolwyr i helpu i ddiogelu afonydd pwysig rhag bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Ngorllewin Cymru.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC) i reoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ar afonydd Teifi, Tywi ac afonydd Cleddau.

Mae rhywogaeth estron oresgynnol yn golygu unrhyw anifail neu blanhigyn a all ledaenu, gan achosi niwed i’n hadnoddau naturiol, ein hamgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’r ffordd yr ydym yn byw.

Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio yn yr awyr agored ar hyd yr afonydd er mwyn cael gwared ar blanhigion jac y neidiwr goresgynnol sy’n tyfu ar lannau’r afonydd ac i reoli lledaeniad y rhywogaeth ymhellach i lawr yr afonydd.

Bydd hwn yn ddull wedi’i dargedu dros gyfnod o dair blynedd, er mwyn cael gwared ar y planhigion yn llwyr mewn chwech is-afon.

Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr 16 oed neu hŷn sy’n ymddiddori ym maes cadwraeth ac sy’n awyddus i weithio yn yr awyr agored i wneud cais. Rhaid iddynt fod yn barod i deithio i ardaloedd Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Llanymddyfri, Llandeilo neu Hwlffordd, a gallu cyfrannu ychydig oriau neu ychydig ddyddiau bob mis.

Bydd gwirfoddolwyr yn gallu gweithio ar eu cyflymder eu hunain ac, yn wrth wneud hyn, byddant yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol a sgiliau adnabod planhigion, yn ogystal â chyfrannu at strategaeth reoli ehangach i atal rhywogaethau goresgynnol rhag lledaenu ar hyd ein hafonydd.

Ystyrir yr afonydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n golygu eu bod yn cael eu gwarchod ac o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion megis eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Mae rheoli lledaeniad ac effaith Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn amcan allweddol y gwaith gwirfoddol, gan fod y planhigion wedi dod yn gyffredin yn y DU, gan gytrefu glannau afonydd, ymylon torlannol a choetiroedd gwlyb.

Mae Jac y neidiwr yn cystadlu’n llwyddiannus â llystyfiant brodorol, a phan fydd yn marw yn y gaeaf bydd yn gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad.

Meddai Harriet Alvis, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC): “Mae gwirfoddolwyr eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r gwaith o amddiffyn ein hafonydd ac maen nhw’n rhan annatod o’r ateb yn y tymor hwy.”

Mae Sarah Jewell yn gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd. Meddai: “Mae bod allan ar hyd glannau’r afon leol gyda grŵp o bobl eraill o’r un anian sydd am wneud rhywbeth ymarferol ddefnyddiol i helpu i ddiogelu’r ecosystem werthfawr hon yn cael effaith gadarnhaol ar ymdeimlad pawb o les, cymuned a chysylltiad.”

Meddai Susannah Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi YAGC i gynnig y cyfleoedd gwirfoddoli hyn. Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig ac i wneud cyfraniad gwerth chweil i gadwraeth amgylcheddol.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mapio rhywogaethau estron goresgynnol wedi bod yn digwydd ar hyd y pedair afon. Mae’r canlyniadau wedi canfod clystyrau trwchus o Jac y neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan ac efwr enfawr yn yr ardaloedd hyn.

Mae tua 150 o rywogaethau estron goresgynnol yn bresennol yng Nghymru. Gallwch weld y rhestr a’u dosbarthiad yn Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru. Er mwyn cael gwybod mwy neu i wneud cais, ewch i’r wefan Prosiect Dileu Jac y Neidiwr | West Wales Rivers Trust.