Lansio Cynllun y Bobl ar gyfer Afon Teifi: Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol a Yrrir gan y Gymuned
Mae amlinelliad beiddgar newydd o uchelgeisiau cymunedol i warchod ac adfer Afon Teifi wedi’i ddatgelu heddiw gyda lansiad Cynllun y Bobl ar gyfer Afon Teifi. Wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan dros 300 o bobl o fewn cymunedau lleol, mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol yr afon—un sy’n blaenoriaethu iechyd ecolegol, rheolaeth gynaliadwy, a chyfranogiad cymunedol.
Mae Afon Teifi, un o ddyfrffyrdd mwyaf eiconig Cymru, yn cynnal bywyd gwyllt amrywiol, yn chwarae rhan mewn bywoliaeth leol, ac mae ganddi arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol dwfn. Fodd bynnag, fel llawer o afonydd, mae’n wynebu pwysau cynyddol yn sgil llygredd, newid yn yr hinsawdd, a defnydd tir anghynaliadwy. Mae Cynllun y Bobl yn ymateb i’r heriau hyn, gan gynnig map ffordd ymarferol i ddiogelu’r Teifi am genedlaethau i ddod.
“Dyma gynllun a adeiladwyd gan y bobol, ar gyfer yr afon,” meddai Harriet Alvis, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru. “Mae’n adlewyrchu gwybodaeth, angerdd, uchelgeisiau a dyheadau’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn treulio amser ar hyd Afon Teifi, gan sicrhau bod ei dyfodol yn cael ei siapio gan y rhai sy’n poeni fwyaf am ei llesiant.”
Mae’r blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y cynllun yn cynnwys:
Cynyddu mynediad i’r afon – Sicrhau bod gan gymunedau fannau diogel i fynd at yr afon er mwyn cynyddu lles y gymuned a hybu cysylltiad ag Afon Teifi.
Adfer ansawdd dŵr – Mynd i’r afael â llygredd o amaethyddiaeth, diwydiant a dŵr gwastraff i wella bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd.
Gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau – Gwella’r amgylchedd naturiol i gefnogi poblogaethau pysgod, adar a rhywogaethau planhigion.
Bwyd a ffermio – Hyrwyddo ffermio cyfrifol a chymorth i ffermwyr i alluogi hyn.
Cydnabod diwylliant a threftadaeth – Annog cyfranogiad lleol mewn ymdrechion cadwraeth a chynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Afon Teifi.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori helaeth ag aelodau’r gymuned leol trwy arolygon ar-lein a digwyddiadau personol. Hyd yma, mae’n cynrychioli barn dros 300 o aelodau’r gymuned, a’r gobaith yw y bydd y nifer hwn yn parhau i dyfu. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i weithredu, gan alw am amddiffyniadau cryfach, buddsoddiad wedi’i dargedu, a rheolaeth gydweithredol o’r afon.
Gyda Chynllun y Bobl ar gyfer Afon Teifi bellach yn ei le, mae’r ffocws yn symud i weithrediad. Mae cymunedau, busnesau ac awdurdodau yn cael eu hannog i gefnogi argymhellion y cynllun a chymryd rhan mewn prosiectau a mentrau sydd ar ddod.
Gellir gweld a lawrlwytho’r cynllun yma:
Sylwch y gellir hefyd lawrlwytho’r cynllun yn Saesneg ar fersiwn Saesneg ein gwefan yma.
Nid yw’n rhy hwyr i gyfrannu at y cynllun – gweler isod am fanylion!
Beth yw ein cynllun?
Rydym yn ymroddedig i gasglu lleisiau, syniadau a gobeithion pawb sy’n anwylo’r Afon Teifi.
Mae’r Teifi yn fwy na dim ond afon. Mae’n rhan hanfodol o’n treftadaeth, ein heconomi a’n profiadau dyddiol. Llifo drwy ein cymunedau, meithrin bywyd, a darparu heddwch, mae’r afon wedi llunio ein bywydau ers cenedlaethau, ased a rennir sy’n ein cysylltu ni i gyd. Sut allwn ni sicrhau ei fod yn parhau i fod yn anadl einioes ar gyfer y dyfodol? Mae eich safbwynt yn bwysig.
Mae’r Teifi’n dirwyn ei ffordd o Fynyddoedd Cambria i’r môr ym Mae Ceredigion, gan fynd trwy dirweddau ffrwythlon, trefi hanesyddol, a chynefinoedd sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’n afon sy’n cefnogi amrywiaeth o fywyd a gweithgareddau – o’r eog a’r sewin eiconig sy’n denu pysgotwyr, i’r llwybrau tawel sy’n gwahodd cerddwyr, i’r dyfroedd sy’n cynnig anturiaethau i gaiacwyr a chanŵwyr.
Rydym eisiau sicrhau bod y Teifi’n parhau i ffynnu, nid yn unig fel adnodd naturiol, ond fel lle a rennir sy’n cyflawni potensial creadigol, economaidd a hamdden ein cymunedau. Dyna pam rydym yn gofyn i chi helpu i lunio dyfodol yr afon drysor hon.
Bydd eich mewnwelediad nid yn unig yn llywio ein hymdrechion yn Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ond byddant hefyd yn cael eu rhannu â chyrff statudol a grwpiau eraill sy’n gweithio ar Afon Teifi. Drwy ddeall sut rydych yn defnyddio’r afon a’ch gobeithion ar gyfer ei dyfodol, gallwn sicrhau bod safbwyntiau cymunedol wrth wraidd cynlluniau a mentrau ehangach.
Beth ydych chi’n ei garu am Afon Teifi, a beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn gwella? Falle mynediad gwell i’r dŵr, gwell ymdrechion cadwraeth, neu fwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol, bydd eich syniadau’n helpu i lywio ein hymdrechion i ddiogelu a gwella’r afon yr ydym i gyd yn dibynnu arni. Trwy rannu eich meddyliau, gallwn weithio gyda’n gilydd i warchod y Teifi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rhan fywiog o’n bywyd cymunedol.
Rhowch ychydig funudau o’ch amser i ni a llenwch ein ffurflen isod, a sicrhewch fod eich persbectif yn cael ei glywed.
