Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

  • This event has passed.

Cenarth – Mapio’r Afon

Chwefror 25, 2025 @ 10:30 am - 3:30 pm

Mapio’r Afon

Fel rhan o Raglen Llais yr Afon, bydd dau ddigwyddiad creadigol am ddim “Mapio’r Afon” yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys sgwrs, mapio a gweithdai celf. Mae’r digwyddiadau hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr afon a’i rôl yn yr ardal leol ac mae croeso i bob oedran, felly dewch â’r teulu!
Yn y ddau ddigwyddiad mae cyfle i archwilio map Idris Mathias , cyfrannu eich gwybodaeth, eich straeon a’ch gobeithion at y map newydd i lunio Cynllun y Bobl ar gyfer Afon Teifi.
Bydd y cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghenarth.
Dydd Mawrth Chwefror 25
10.30am – 12.30pm & 1.30pm-3.30pm
Festri Capel Cenarth
Dewch i weithgaredd creadigol galw heibio bore neu brynhawn.
Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal gan Joe Wilkins, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, a’r artistiaid Pip Lewis a Guy Norman o spacetocreate.

 

Details

  • Date: Chwefror 25, 2025
  • Time:
    10:30 am - 3:30 pm

Organizer

  • West Wales Rivers Trust – Joe
  • Email joe@westwalesriverstrust.org

Venue