Cwrdd yn y maes parcio ger Caeau Chwaraeon Penygaer am 11yb. Rydym yn gwrdd i gynnal sesiwn casglu sbwriel ar hyd Afon Lliedi. Mae croeso i deuluoedd a bydd bach o siocled i’r holl blant sy’n mynychu.
Bydd angen esgidiau cerdded addas. Ni fyddwn yn mynd i mewn i unrhyw ardaloedd mwdlyd iawn, ond byddai’n ddoeth gwisgo esgidiau diddos.
What3Words am maes parcio Penygaer yw ///desire.hang.asserts
Y côd post yw SA14 8RS.
Bydd diodydd a bisgedi ar gael am 12.30pm yn y maes parcio.