Cwrdd yn y maes parcio Pwll Dafen am 11yb. Mae croeso i deuluoedd a bydd bach o siocled i’r holl blant sy’n mynychu.
Bydd angen esgidiau cerdded addas. Ni fyddwn yn mynd i mewn i unrhyw ardaloedd mwdlyd iawn, ond byddai’n ddoeth gwisgo esgidiau diddos.
What3Words am maes parcio Pwll Dafen yw ///equal.income.broom
Y côd post yw SA14 8NS
Bydd diodydd a bisgedi ar gael am 12.30pm yn y maes parcio.