{"id":1491,"date":"2024-04-19T05:15:27","date_gmt":"2024-04-19T05:15:27","guid":{"rendered":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/?p=1491"},"modified":"2024-04-19T05:15:31","modified_gmt":"2024-04-19T05:15:31","slug":"galw-am-wirfoddolwyr-i-helpu-i-warchod-afonydd-rhag-rhywogaethau-goresgynnol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/galw-am-wirfoddolwyr-i-helpu-i-warchod-afonydd-rhag-rhywogaethau-goresgynnol\/","title":{"rendered":"Galw am wirfoddolwyr i helpu i warchod afonydd rhag rhywogaethau goresgynnol"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae prosiect partneriaeth newydd yn galw am wirfoddolwyr i helpu i ddiogelu afonydd pwysig rhag bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Ngorllewin Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae prosiect <a href=\"https:\/\/naturalresources.wales\/about-us\/what-we-do\/our-projects\/nature-projects\/4-rivers-for-life\/?lang=en\">Pedair Afon LIFE<\/a> Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC) i reoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ar afonydd Teifi, Tywi ac afonydd Cleddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhywogaeth estron oresgynnol yn golygu unrhyw anifail neu blanhigyn a all ledaenu, gan achosi niwed i&#8217;n hadnoddau naturiol, ein hamgylchedd, yr economi, ein hiechyd a&#8217;r ffordd yr ydym yn byw.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio yn yr awyr agored ar hyd yr afonydd er mwyn cael gwared ar blanhigion jac y neidiwr goresgynnol sy\u2019n tyfu ar lannau\u2019r afonydd ac i reoli lledaeniad y rhywogaeth ymhellach i lawr yr afonydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"774\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Plysgog-Balsam-bashing-774x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1438\" style=\"width:386px;height:auto\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd hwn yn ddull wedi&#8217;i dargedu dros gyfnod o dair blynedd, er mwyn cael gwared ar y planhigion yn llwyr mewn chwech is-afon.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r prosiect yn annog gwirfoddolwyr 16 oed neu h\u0177n sy\u2019n ymddiddori ym maes cadwraeth ac sy\u2019n awyddus i weithio yn yr awyr agored i wneud cais. Rhaid iddynt fod yn barod i deithio i ardaloedd Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Llanymddyfri, Llandeilo neu Hwlffordd, a gallu cyfrannu ychydig oriau neu ychydig ddyddiau bob mis.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwirfoddolwyr yn gallu gweithio ar eu cyflymder eu hunain ac, yn wrth wneud hyn, byddant yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol a sgiliau adnabod planhigion, yn ogystal \u00e2 chyfrannu at strategaeth reoli ehangach i atal rhywogaethau goresgynnol rhag lledaenu ar hyd ein hafonydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ystyrir yr afonydd yn <a href=\"https:\/\/eur01.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fnaturalresources.wales%2Fguidance-and-advice%2Fenvironmental-topics%2Fwildlife-and-biodiversity%2Fprotected-areas-of-land-and-seas%2Fsites-protected-by-european-and-international-law%2F%3Flang%3Dcy&amp;data=05%7C02%7Cdana.thomas%40cyfoethnaturiolcymru.gov.uk%7C098a712a29344d9ce52508dc5d389857%7C8865ef0facde487cbf175cb50375d757%7C0%7C0%7C638487745058701489%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=eywlxF8GP7H2gi2bmONyfXxYzeFkwAfmQYTIewd4Hbc%3D&amp;reserved=0\"><strong>Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)<\/strong><\/a> sy&#8217;n golygu eu bod yn cael eu gwarchod ac o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a&#8217;u planhigion megis eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rheoli lledaeniad ac effaith Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn amcan allweddol y gwaith gwirfoddol, gan fod y planhigion wedi dod yn gyffredin yn y DU, gan gytrefu glannau afonydd, ymylon torlannol a choetiroedd gwlyb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jac y neidiwr yn cystadlu\u2019n llwyddiannus \u00e2 llystyfiant brodorol, a phan fydd yn marw yn y gaeaf bydd yn gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Harriet Alvis, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC): &#8220;Mae gwirfoddolwyr eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i\u2019r gwaith o amddiffyn ein hafonydd ac maen nhw\u2019n rhan annatod o&#8217;r ateb yn y tymor hwy.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Sarah Jewell yn gwirfoddoli gyda&#8217;r Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd. Meddai: &#8220;Mae bod allan ar hyd glannau&#8217;r afon leol gyda gr\u0175p o bobl eraill o&#8217;r un anian sydd am wneud rhywbeth ymarferol ddefnyddiol i helpu i ddiogelu&#8217;r ecosystem werthfawr hon yn cael effaith gadarnhaol ar ymdeimlad pawb o les, cymuned a chysylltiad.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Susannah Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE: &#8220;Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi YAGC i gynnig y cyfleoedd gwirfoddoli hyn. Dyma gyfle i fod yn rhan o d\u00eem ymroddedig ac i wneud cyfraniad gwerth chweil i gadwraeth amgylcheddol.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mapio rhywogaethau estron goresgynnol wedi bod yn digwydd ar hyd y pedair afon. Mae&#8217;r canlyniadau wedi canfod clystyrau trwchus o Jac y neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan ac efwr enfawr yn yr ardaloedd hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tua 150 o rywogaethau estron goresgynnol yn bresennol yng Nghymru. Gallwch weld y rhestr a&#8217;u dosbarthiad yn <a href=\"https:\/\/eur01.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwales-species-inns.nbnatlas.org%2F&amp;data=05%7C02%7Cdana.thomas%40cyfoethnaturiolcymru.gov.uk%7C098a712a29344d9ce52508dc5d389857%7C8865ef0facde487cbf175cb50375d757%7C0%7C0%7C638487745058708495%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=6Tyn9LUoqTirVih%2BIjslZSnV0564PjY0kxqYaYsicVI%3D&amp;reserved=0\"><strong>Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru<\/strong><\/a>. Er mwyn cael gwybod mwy neu i wneud cais, ewch i&#8217;r wefan <a href=\"https:\/\/eur01.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwestwalesriverstrust.org%2Fcy%2Fbalsam-eradication-project%2F&amp;data=05%7C02%7Cdana.thomas%40cyfoethnaturiolcymru.gov.uk%7C098a712a29344d9ce52508dc5d389857%7C8865ef0facde487cbf175cb50375d757%7C0%7C0%7C638487745058715160%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=jukHoPVs8dB7ILlSJfHHDDWNOcM%2Bt6Nm9vtlvHmRZIU%3D&amp;reserved=0\">Prosiect Dileu Jac y Neidiwr | West Wales Rivers Trust<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect partneriaeth newydd yn galw am wirfoddolwyr i helpu i ddiogelu afonydd pwysig rhag bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Ngorllewin Cymru. Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","_price":"","_stock":"","_tribe_ticket_header":"","_tribe_default_ticket_provider":"","_tribe_ticket_capacity":"0","_ticket_start_date":"","_ticket_end_date":"","_tribe_ticket_show_description":"","_tribe_ticket_show_not_going":false,"_tribe_ticket_use_global_stock":"","_tribe_ticket_global_stock_level":"","_global_stock_mode":"","_global_stock_cap":"","_tribe_rsvp_for_event":"","_tribe_ticket_going_count":"","_tribe_ticket_not_going_count":"","_tribe_tickets_list":"[]","_tribe_ticket_has_attendee_info_fields":false,"wds_primary_category":26,"footnotes":""},"categories":[25,26],"tags":[61,84,80,85,81,83,82],"class_list":["post-1491","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-diweddar","category-prosiectau","tag-adfer-afonydd","tag-afon-tywi","tag-cleddau","tag-jac-y-neidiwr","tag-teifi","tag-towy","tag-tywi"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1491","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1491"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1491\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1493,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1491\/revisions\/1493"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1491"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1491"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/westwalesriverstrust.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1491"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}